Cyfarfod o Grŵp Trawsbleidiol y Celfyddydau ac Iechyd
3pm ar 9 Chwefror 2023 drwy gysylltiad Sŵm
Presennol
Jayne Bryant, Aelod o'r Senedd, Cadeirydd
Sally Lewis, Cyngor Celfyddydau Cymru
Kate Newman, Gofal Cymdeithasol Cymru
Angela Rogers, WAHWN
Nesta Lloyd-Jones, Cydffederasiwn GIG Cymru
Prue Thimbleby, aelod o Gyngor Cyngor Celfyddydau Cymru
Emily Van de Venter, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Andrea Davies, Bwrdd Iechyd Betsi Prifysgol Cadwaladr
Teri Howson-Griffiths, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Johan Skre, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Sarah Goodey, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Lucy Bevan, Bwrdd Iechyd Dysgu Powys
Kathryn Lambert, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Sofia Vougioukalou, Y Lab ym Mhrifysgol Caerdydd
Simone Joslyn, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Elinor Lloyd, Cyngor Celfyddydau Cymru (cofnodion)
Croeso a chyflwyniadau
Croesawodd Jayne Bryant, y Cadeirydd, bawb i'r cyfarfod. Nodwyd yr ymddiheuriadau fel uchod.
Cofnodion y cyfarfod diwethaf ar 19 Hydref 2022
Cytunodd y Grŵp fod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn rhai cywir.
Llythyr gan Dawn Bowden
Yn dilyn ein cyfarfod diwethaf, a ganolbwyntiai ar effaith yr argyfwng costau byw ar sector y celfyddydau a'r sgil-effaith ar iechyd cyhoeddus, roedd Jayne (fel Cadeirydd y Grŵp) wedi ysgrifennu at Dawn Bowden i gyfleu ein pryderon ac i wahodd y Dirprwy Weinidog i'n cyfarfod nesaf. Diolchodd y Cadeirydd i Emily van de Venter o Iechyd Cyhoeddus Cymru am ddrafftio llythyr ardderchog ar ran y grŵp ac i aelodau eraill am eu cyfraniadau hefyd. Roedd ymateb y Dirprwy Weinidog wedi'i ddosbarthu i'r grŵp. Dyma’r prif bwyntiau:
Cam gweithredu - Elinor fel Ysgrifennydd y Grŵp i gysylltu â swyddfa'r Dirprwy Weinidog i drefnu dyddiad addas yn y dyfodol i'r Dirprwy Weinidog ddod i’r Grŵp.
Strategy Ddiwylliant Newydd Llywodraeth Cymru
Dywedodd Angela Rogers wrth y grŵp bod Llywodraeth Cymru yn datblygu Strategaeth Ddiwylliant newydd ar hyn o bryd a bod cyfle i'r Grŵp roi mewnbwn. Cytunodd Sally Lewis, gan ddweud ei bod wedi cwrdd yn ddiweddar â Catrin Hughes (a oedd yn arwain ar hyn yn Llywodraeth Cymru) i roi trosolwg ar weithgarwch y Celfyddydau ac Iechyd gan ddeall y bydd ymgynghoriad yn y dyfodol agos a fydd yn arwain at gyhoeddi'r strategaeth yn ddiweddarach eleni.
Astudiaeth Achos: Hwb Celf - rhan o raglen y Celfyddydau a’r Meddwl a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring
CyflwynoddKathryn Lambert, Cydlynydd Celfyddydau ac Iechyd Bwrdd Iechyd Hywel Dda, eu hastudiaeth achos a'u gwerthusiad diweddar o Hwb Celf. Mae hwn yn brosiect newydd uchelgeisiol sydd â’r nod o wella iechyd meddwl pobl ifanc drwy ymgysylltu â gweithgareddau celfyddydol. Cynigiwyd y cyfle i blant a phobl ifanc (12-17 oed) sy'n hysbys i dîm arbenigol CAMHS ar draws Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Roedd cynnwys tîm ymchwil mewnol y Bwrdd Iechyd yn ffordd wych o bwysleisio effaith gadarnhaol y gwaith ar iechyd meddwl y bobl ifanc a chodi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ohono ymhlith y staff clinigol. Roedd Hwb Celf yn cael ei ystyried yn lle diogel ac effeithiol i ddechrau adfer ac roedd yn drawiadol sut roedd y cyfraddau cefnu ar Hwb Celf yn is o'i gymharu ag ymyriadau eraill (nad oeddynt yn greadigol), er enghraifft grwpiau therapi siarad.
Ysgogodd y cyflwyniad lawer o ganmoliaeth i'r model a'r partneriaethau cadarn a ddatblygwyd a chafwyd trafodaeth fywiog. Roedd rhan allweddol o'r sgwrs yn canolbwyntio ar sut y gellid ymestyn y cynnig creadigol i alluogi rhagor o bobl ifanc i elwa arno, yn enwedig o ystyried y nifer uchel sydd ar restr aros CAMHS ar hyn o bryd. Mae'r model presennol yn cynnwys gweithwyr achos yn cael eu cysylltu â phob un sy'n cymryd rhan a gofynnwyd a fyddai'r model yn gweithio heb y gweithwyr achos fel y gallai fod yn haws ei gynyddu. Awgrymodd Prue y gallai cwnselwyr ysgolion gyfeirio plant yn uniongyrchol at y cynllun yn hytrach na'u cyfeirio at CAMHS, i osgoi'r rhestr aros a lleddfu ar y pwysau wrth ddilyn y llwybr hwnnw. Nododd Emily fod CAMHS eisoes yn gweithredu gwasanaethau cyrhaeddiad sy'n cefnogi staff ysgolion ac athrawon ac y gallai hyn o bosibl fod yn dîm da i ymgysylltu ag ef yn y dyfodol.
Diolchodd y Cadeirydd i Kathryn am ei gwaith gwych ac am rannu'r astudiaeth achos, gan nodi ei bod yn gyffrous glywed sut mae rhaglen bartneriaeth (sy'n cynnwys tîm CAMHS a phartneriaid celfyddydol ledled y Gorllewin) yn cefnogi iechyd meddwl plant a phobl ifanc drwy'r celfyddydau.
Cam gweithredu: Kathryn i ddosbarthu'r gwerthusiad i aelodau o’r Grŵp
Cam gweithredu: Kathryn i roi mewnbwn i’r drafft o’r llythyr oddi wrth y Grŵp at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn ogystal â'r Pwyllgorau Iechyd a Phlant a Phobl Ifanc i'w hysbysu am y gwaith hwn a’r gwaith ehangach sy'n cefnogi iechyd a lles pobl ifanc drwy'r celfyddydau.
Trafod strategaeth iechyd meddwl newydd Llywodraeth Cymru
Rhoes Nesta Lloyd-Jones wybod i’r grŵp y byddai Llywodraeth Cymru yn ymgynghori eleni ar strategaeth iechyd meddwl newydd. Fel arfer, caniateir cyfnod o 8 - 12 wythnos ar gyfer ymatebion a chytunwyd y dylai aelodau o'r Grŵp fod yn rhagweithiol wrth ledaenu'r gair a chyflwyno ymateb unwaith y bydd yr ymgynghoriad ar agor. Nododd Sally Lewis, gan fod yr holl ymatebion i ymgynghoriadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn cael eu trin yn gyfartal, nad oedd un ymateb ar y cyd (er enghraifft, oddi wrth WAHWN ar ran ei 700 a rhagor o aelodau) mor rymus â 700 o ymatebion ar wahân gan aelodau unigol. Awgrymodd Nesta Lloyd-Jones y dylid rhannu llythyr templed gyda'r sector fel y gallai pob sefydliad celfyddydol a phob un iechyd gyflwyno ymateb i gynyddu pwysigrwydd barn y sector. Awgrymodd y Cadeirydd y gallai llythyr cryno gyda phwyntiau bwled fod yn ffordd effeithiol o gyfleu’r prif negeseuon. Cytunodd y Cadeirydd i roi gwybod i’r grŵp y newyddion diweddaraf am y strategaeth wrth iddi ddatblygu.
Cam gweithredu: Elinor i rannu’r ymgynghoriad am strategaeth iechyd meddwl Llywodraeth Cymru pan gaiff ei gyhoeddi. Aelodau o'r Grŵp i ddrafftio llythyr gyda phwyntiau allweddol i'w hystyried mewn ymateb i'r ymgynghoriad.
Ceisiadau i ymuno â'r Grŵp
Dywedodd Sally Lewis wrth y grŵp bod yr Ysgrifenyddiaeth, o bryd i'w gilydd, yn derbyn ceisiadau i ymuno â'r Grŵp a'n bod yn ôl pob tebyg angen protocol y cytunir arno i ddelio â'r ceisiadau hyn. Cyn hynny, roedd y drws agored o ran aelodaeth wedi mynd yn anymarferol ac yn anhylaw oherwydd bod cyflwyniadau’n cymryd y rhan fwyaf o'r amser, gan adael rhy ychydig o amser i’r trafodaethau thematig priodol. Roedd diffyg cysondeb hefyd yn broblem oherwydd gorfod ailadrodd yr un pethau i aelodaeth a newidiai’n gyson. Felly i roi mwy o ffocws a sicrhau bod gennym yr arbenigedd cywir yno, roedd y grŵp wedi cael ei leihau i gynrychiolwyr o sefydliadau allweddol gyda gwahanol siaradwyr gwadd. Fodd bynnag, teimlwyd ei bod yn bwysig adnewyddu'r aelodaeth yn enwedig lle'r oedd bylchau. Cafwyd ceisiadau diweddar gan Diverse Cymru a swyddog i'r wasg yng Nghronfa Treftadaeth y Loteri i'w hystyried.
Roedd pob un yn cytuno y byddai Diverse Cymru yn aelod ychwanegol pwysig yn enwedig yn sgil ein ffocws ar fynd i'r afael ag anghydraddoldeb. Fodd bynnag, nid oedd yn glir pa arbenigedd ym maes y Celfyddydau ac Iechyd y gallai'r swyddog cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer Cronfa Dreftadaeth y Loteri ei ychwanegu. Cytunwyd felly gyfeirio'r Gronfa at WAHWN a fydd yn grŵp mwy defnyddiol iddi. Atgoffodd Nesta Lloyd-Jones bawb mai prif amcan y Grŵp oedd dylanwadu ar bolisi a hysbysu Aelodau o’r Senedd ac y dylem ailedrych ar y Cylch Gorchwyl drafft a phrotocol syml ar gyfer ymdrin â cheisiadau newydd am aelodaeth yng ngoleuni eu gallu i ddod ag arbenigedd ychwanegol a pherthnasol i'r grŵp i'n helpu i gyflawni ein nodau. Roedd pob un yn cytuno bod angen i ni ddyblu ein hymdrechion i ddenu mwy o Aelodau o’r Senedd i gyfarfodydd. Cytunwyd bod angen i bersonoli gwahoddiadau i Aelodau o’r Senedd ar gyfer cyfarfodydd lle mae gwaith yn eu hetholaeth yn cael ei gyflwyno / drafod. Cytunwyd y gallem wahodd sefydliadau/ rhanddeiliaid eraill gan ddibynnu ar y pwnc sy'n cael ei drafod.
Awgrymodd y Cadeirydd ein bod yn ailystyried cynnal cyfarfod wyneb yn wyneb / hybrid efallai gyda digwyddiad / perfformiad ynghlwm â hybu presenoldeb gan Aelodau o'r Senedd ac i ddod â phobl at ei gilydd wyneb yn wyneb unwaith eto. Gallai'r clipiau ffilm fer a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru gael eu defnyddio wrth wahodd aelodau i'r Grŵp. Nododd y Cadeirydd hefyd y gallai'r grŵp ganolbwyntio ar aelodau sydd eisoes wedi cofrestru i fod yn rhan o'r Grŵp, ond sydd heb ddod ers tro.
Camau gweithredu:
· Gwahodd Diverse Cymru i’r cyfarfod nesaf
· Cyfeirio Cronfa Dreftadaeth y Loteri at WAHWN
· Cyflwyno i'r ystyriaeth y cyfarfod nesaf Gylch Gwaith drafft a phrotocol ar gyfer delio â cheisiadau am aelodaeth newydd
· Mireinio ein dull o roi cyhoeddusrwydd i gyfarfodydd i Aelodau o'r Senedd, gan dargedu aelodau sydd eisoes wedi ymuno â'r Grŵp yn ogystal ag Aelodau o'r Senedd a fyddai â diddordeb mewn agendâu penodol a pherthnasol i'w hetholaeth. Pob aelod o’r Grŵp i fynd at eu Haelod lleol o'r Senedd i'w hannog i ddod
· Cael dyddiad yn y dyddiadur ar gyfer cyfarfod / hybrid / digwyddiad
Diweddariad y partneriaid
Diolchodd y Cadeirydd i bawb oedd wedi cyflenwi adroddiadau. Ni nodwyd unrhyw sylwadau pellach gan y grŵp.
Unrhyw fater arall
Cyhoeddodd Nesta Lloyd-Jones y bydd Cydffederasiwn GIG Cymru yn cynnal digwyddiad pen-blwydd y GIG yn 75 yn y Senedd ar 5 Gorffennaf a gofyn am awgrymiadau ar gyfer cynnwys y Celfyddydau ac Iechyd ar gyfer yr arddangosfa a'r digwyddiad. Y thema fydd edrych tuag at ddyfodol y GIG.
Cam gweithredu:
Pawb i gysylltu â Nesta Lloyd-Jones gyda syniadau ar gyfer gwaith ar gyfer digwyddiad y GIG yn 75
Diolchodd y Cadeirydd i bawb am ddod i'r cyfarfod ac am yr holl waith rhagorol sy'n cael ei wneud dros y Celfyddydau a Iechyd yng Nghymru.
Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 19 Mehefin 2023.